WQ85506 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2022

Pa gamau mae’r Gweinidog yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod digon o gyrsiau er mwyn hyfforddi staff gofal plant i sicrhau bod ganddynt gymhwyster Lefel 3 mewn chwarae plant erbyn mis Medi 2022?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 22/06/2022

Mae ein Safonau Gofynnol Cenedlaethol  (SGC) yn nodi'r gofynion o ran cymwysterau ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio mewn lleoliadau a reoleiddir sy'n darparu gofal plant i blant hyd at 12 oed. 

Yn 2017 penderfynwyd y byddai angen cymwysterau gofal plant a chwarae ar gyfran o'r staff yn y lleoliadau hynny sy'n gofalu am blant 8-12 oed, a dylid cyflawni hyn erbyn mis Medi 2021.  Cafodd hyn ei gyfleu i'r sector am y tro cyntaf yn 2017 drwy gylchlythyr WGC 006/2017  gyda llythyr atgoffa  wedi'i ddosbarthu ym mis Ionawr 2020.  Fodd bynnag, cafodd y dyddiad cau cychwynnol ei ymestyn o 12 mis i fis Medi 2022 i gydnabod effaith COVID-19.  Amlinellwyd yr estyniad mewn llythyr i'r sector ym mis Ionawr 2021.

Mae Clybiau Plant Cymru Kids Clubs, Chwarae Cymru a Chyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru) yn rhannu'r ymrwymiad hwn ac wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru y dylai'r dyddiad terfyn aros ym mis Medi 2022.  Felly, nid oes unrhyw gynlluniau i ddiwygio'r dyddiad terfyn ar hyn o bryd.

Mae cymorth wedi bod ar gael drwyddi draw i helpu lleoliadau a staff i gael mynediad at y cymwysterau sydd eu hangen arnynt a'u hennill er mwyn bodloni'r terfyn amser, sef Medi 2022.

Datblygwyd Rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop yn benodol i gefnogi ymarferwyr i ennill y cymwysterau angenrheidiol o fewn y terfyn amser.  Mae Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yn ariannu amrywiaeth o gymwysterau byr a hirach ym maes Chwarae i gefnogi ymarferwyr ar wahanol lefelau i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i fodloni'r gofyniad. 

Mae darparwyr hyfforddiant a ariennir gan Cynnydd ar gyfer Llwyddiant wedi dweud bod lleoedd ar gael ar gyrsiau a'u bod yn mynd ati’n rhagweithiol gyda'r sector i'w cefnogi i oresgyn unrhyw rwystrau o ran hyfforddi a'u helpu i gofrestru.

Mae Clybiau Plant Cymru Kids Clubs yn cychwyn ar ymarfer i estyn allan at glybiau nad yw eu staff wedi ennill y cymwysterau gofynnol eto, i fynd i’r afael â’u  hanghenion ac ateb y galw. 

Bydd cyrsiau dwys yn cael eu cynnal dros yr haf gyda'r potensial i ddarparu'r rhain ledled Cymru, yn ogystal ag yn Gymraeg, os bydd galw.

Ochr yn ochr â'r gwaith ar gymwysterau chwarae yn benodol, rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r ddarpariaeth gofal plant a gwaith chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg, fel y dangoswyd gan y buddsoddiad a wnaethom eisoes drwy'r Mudiad Meithrin a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Un o amcanion Cymraeg 2050 yw ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar fel pwynt mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r gwaith o greu 150 yn fwy o gylchoedd meithrin erbyn 2027-28.  Rydym yn gweithio gyda Chlybiau Plant Cymru Kids Clubs i archwilio cymorth penodol ar gyfer tyfu'r ddarpariaeth o glybiau ar ôl ysgol cyfrwng Cymraeg.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru i'r Mudiad Meithrin yn cefnogi'r gwaith o ddarparu cyrsiau gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg a chyrsiau i gryfhau sgiliau yn y Gymraeg ymhlith y gweithlu gofal plant.

O fewn y rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant, rydym yn gweithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gefnogi ymarferwyr gyda'r nod o gynyddu eu sgiliau iaith yn sylweddol a rhoi'r hyder iddynt ddefnyddio mwy o Gymraeg gyda'r plant yn eu lleoliadau fel rhan o'u darpariaeth o ddydd i ddydd.

Gan edrych yn benodol ar yr heriau ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith dadansoddol i asesu proffil presennol y gwasanaethau, ac i ddarparu amcanestyniadau ar gyfer maint a phroffil y gweithlu cyfrwng Cymraeg dros y 5 mlynedd nesaf.

Mae gwaith i gefnogi'r sector gofal plant cyfrwng Cymraeg yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â Sian Gwenllian, aelod dynodedig Plaid Cymru, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Cyn bo hir, byddwn yn ymgynghori ar newidiadau i'n Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Mae un o'r rhain yn ymwneud â ph'un a ellir cynnwys staff sy'n gweithio tuag at gymwysterau yn y cymarebau staffio ehangach mewn lleoliadau gofal dydd llawn. Fel rhan o hynny, byddwn hefyd yn ceisio barn ynghylch a ddylid gwneud newid tebyg mewn perthynas â lleoliadau eraill fel y clybiau hyn, ai peidio.