A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar greu parthau 20mya ar ffyrdd ger ysgolion?
Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 26/05/2022
Mae parthau 20mya o amgylch y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru. Rydym yn bwriadu ymestyn y parthau hyn i gynnwys y gymuned ehangach drwy gyflwyno terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn newydd o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig (y rhai hynny â goleuadau stryd) yng Nghymru y flwyddyn nesaf.
Golyga hyn y bydd yn fwy diogel i blant ger ysgolion, ond hefyd yn fwy diogel iddynt ar eu taith i’r ysgol, ac ar eu teithiau eraill.