WQ85048 (w) Wedi’i gyflwyno ar 26/04/2022

Pa gamau sydd yn cael eu cymryd i wella amseroedd aros am ambiwlans yng Nghanol De Cymru?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 06/05/2022

Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn dal i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r byrddau iechyd lleol i ddarparu ystod o gamau gweithredu uniongyrchol a chynaliadwy i gefnogi gwelliant. Mae’r camau hyn yn canolbwyntio ar reoli’r galw am wasanaeth 999 yn well yn y gymuned, sicrhau gwell capasiti, ymateb i bobl sydd ag anghenion sensitif o ran amser a throsglwyddo cleifion o’r ambiwlans. Mae cynnydd wedi’i wneud eisoes o ran cyflawni’r camau hyn, ond mae’n amlwg bod angen camau pellach ar y cyd i sicrhau gwelliannau cynaliadwy. 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi i Wasanaeth Ambiwlans Cymru recriwtio dros 250 o staff ambiwlans rheng flaen ychwanegol yn dilyn argymhellion adolygiad annibynnol ar y galw a’r capasiti.

Mae 36 o glinigwyr rheng flaen ychwanegol wedi cael eu recriwtio yn 2021/22 i ddyblu nifer y staff sydd ar gael ar y ddesg gymorth clinigol gan wella’r ddarpariaeth o gyngor dros y ffôn, a chefnogi pobl i gael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi datblygu cynnig ar gyfer gofynion adnoddau o 2022/23 ymlaen, sy’n dilyn y drefn briodol drwy sicrhau ystyriaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys. Yn y cyfamser, mae aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys wedi cytuno i roi cyllid untro o £1.8m i gefnogi Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i barhau â nifer fechan o gynlluniau a gyflwynwyd yn ystod gaeaf 2021/22 i wella gwytnwch a chynyddu capasiti. Mae’r rhain yn cynnwys capasiti ychwanegol ar gontract gan Ambiwlans Sant Ioan Cymru a charfannu cleifion yn ddiogel yn Ysbyty Treforys ac Ysbyty Athrofaol y Faenor i alluogi rhyddhau’r claf o’r ambiwlans a rhyddhau adnoddau ambiwlans cyn derbyn cleifion i’r adrannau argyfwng.

Gan gydnabod effaith oedi mewn trosglwyddo’r claf o ambiwlans ar brofiad y claf ac argaeledd adnoddau ambiwlans i ymateb i alwadau yn y gymuned, mae Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans Brys hefyd wedi gweithio gyda byrddau iechyd i ddatblygu cynlluniau i wella trosglwyddiad cleifion o ambiwlansiau ar gyfer pob adran argyfwng yng Nghymru. Mae’r cynlluniau hyn, sy’n benodol i safleoedd, yn cynnwys amserlenni a llwybrau ar gyfer gwelliant. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda’r Comisiynydd i fonitro cynnydd yn erbyn y cynlluniau hyn a sicrhau bod camau gweithredu’n cael eu cyflawni yn gyflym ac yn bwrpasol.

O ganlyniad i’r angen am ddull system gyfan ar gyfer cymell gwelliant, mae’r Llawlyfr Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng 2021-26, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn nodi ein cynlluniau strategol, a’n disgwyliadau ar gyfer Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, i sicrhau trawsnewidiad system gyfan o’r mynediad at ofal brys a gofal mewn argyfwng. 

Bydd y gwaith o gyflawni’r chwe nod yn cael ei gefnogi gan gyllid blynyddol o £25m sydd ar gael ar gyfer tymor cyfan y Senedd hon, a bydd yn cael ei gymell a’i oruchwylio gan raglen bortffolio genedlaethol. Sefydlwyd rhaglen genedlaethol hefyd i gefnogi byrddau iechyd a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gyflawni’r gofal gorau yn yr ysbyty a gwella llif cleifion, gan alluogi pobl i ddychwelyd adref o’r ysbyty pan fyddant yn barod, a fydd yn ei dro yn rhyddhau gwelyau mewn ysbytai a lleihau’r oedi ‘wrth y fynedfa’ ar gyfer cleifion sy’n cyrraedd mewn ambiwlans neu drwy unrhyw ddull arall.

Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd gyda Chadeirydd a Phrif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys i gael diweddariadau ar gynnydd yn erbyn y camau gweithredu hyn.