WQ84900 (e) Wedi’i gyflwyno ar 29/03/2022

Pa gamau y mae Comisiwn y Senedd wedi'u cymryd i sicrhau bod pobl sydd wedi colli eu clyw neu sydd wedi'u cofrestru'n fyddar yn gallu ymgysylltu'n llawn â'r broses o wneud cais am swydd yn Senedd Cymru, yn benodol lle mae sgiliau iaith Gymraeg yn ofynnol?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 14/04/2022

Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal ar gyfer pawb drwy ei weithdrefnau recriwtio, yn ystod pob cam o'r broses.

Caiff ymgeiswyr sydd ag unrhyw anghenion ychwanegol eu cefnogi drwy wefan gyrfaoedd a phorth recriwtio’r Comisiwn, a’u hannog i gysylltu ag aelod o’n tîm i drafod unrhyw ofynion sydd ganddynt ar unrhyw adeg: Mae gen i anabledd. Ydych chi’n gallu darparu ar gyfer fy anghenion yn ystod y broses recriwtio? (senedd.cymru)

Gwneir addasiadau i ddarparu ar gyfer unrhyw ymgeisydd nad yw’n gallu gwneud cais gan ddefnyddio ein system olrhain ymgeiswyr ar-lein. Yn achos ymgeiswyr sydd wedi colli eu clyw neu sydd wedi'u cofrestru'n F/fyddar, gall y Comisiwn weithio gydag ymgeiswyr i gael ceisiadau ar ffurf amgen, er enghraifft drwy fideo BSL neu drwy gyfieithu ar y pryd BSL byw ar alwad fideo. 

Yn ystod y cam cyfweld, rydym yn parhau i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael y cyfle i ofyn am addasiadau yn ôl yr angen. Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i'w gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer pobl anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer rôl benodol.

Cafodd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ei gyflwyno yn 2018 a chynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn seiliedig ar y newidiadau arfaethedig. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei ddiweddaru pan gyflwynir y Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd yn ddiweddarach eleni.

Caiff rolau o fewn Comisiwn y Senedd nad ydynt yn galw am sgiliau Cymraeg rhwng lefel 1 a 5 eu hysbysebu fel rolau 'Cymraeg Cwrteisi'. 

Mae’r Comisiwn yn cefnogi ymgeiswyr sydd wedi colli eu clyw neu sydd wedi’u cofrestru’n F/fyddar sy’n cael eu penodi i rôl benodol drwy ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd BSL / gwefusddarllen / palanteipio yn ôl yr angen, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Rydym yn gweithio gyda phob unigolyn fesul achos.

Ni ddylai ein prosesau atal ymgeisydd sydd â nam ar ei glyw neu sydd wedi'i gofrestru'n F/fyddar rhag cael mynediad at ein proses ymgeisio am swydd.

Ein ffocws yw gweithio gydag ymgeiswyr yn unigol, gan deilwra addasiadau i'w gofynion penodol i'w galluogi i gymryd rhan gyfartal yn ein hymgyrchoedd recriwtio yn ystod pob cam o'r broses.