WQ84544 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/02/2022

Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi gwneud o a yw'r gyllideb ar gyfer Canolfan Ganser Felindre newydd drwy fodel buddsoddi cydfuddiannol yn ddigonol ar ôl ystyried codiad mewn chwyddiant, costau defnydd adeiladu a chostau ynni ers 2014-15?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 24/02/2022

Natur y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yw bod proses o ddeialog gystadleuol yn cael ei defnyddio i brofi’r cynllun a’r cynigion ariannol.

Ni fydd y contract terfynol a’r gwerthoedd cysylltiedig yn hysbys tan fod y broses gaffael drwy gyfrwng deialog gystadleuol wedi’i chwblhau, a hynny ar yr amod bod yr achosion busnes yn cael eu cymeradwyo.

Mae effaith chwyddiant ar y maes adeiladu a chostau ynni cynyddol yn rhoi pwysau ar gostau prosiectau adeiladu waeth ble y mae’r prosiectau hynny yn ddaearyddol ac a ydynt yn cael eu cyllido drwy Gyfalaf traddodiadol neu’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

Bydd dyraniad y gyllideb derfynol yn digwydd pan fydd y broses wedi’i chwblhau a’r holl gostau’n hysbys ac wedi’u harchwilio’n llawn.