WQ84505 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/02/2022

Beth yw’r nifer cyfredol (neu am y cyfnod mwyaf diweddar y mae data ar gael) o brentisiaethau mewn TGCh?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi | Wedi'i ateb ar 23/02/2022

Mae’r ystadegau swyddogol cyfredol ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 yn dangos mai nifer y rhaglenni prentisiaeth mewn TGCh oedd 1,435.

Caiff ystadegau swyddogol 2020/21 eu cyhoeddi ar 24 Chwefror 2022.