Beth yw’r nifer cyfredol (neu am y cyfnod mwyaf diweddar y mae data ar gael) o athrawon sydd wedi cael eu hyfforddi mewn cyfrifiadureg a thechnoleg gwybodaeth?
Cyhoeddwyd yr ystadegau swyddogol diweddaraf ym mis Mai 2021 ac roeddent yn berthnasol i'r flwyddyn academaidd 2019/20. Fe wnaeth 10 o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf ddechrau cwrs Addysg Gychwynnol Athrawon ym mlwyddyn academaidd 2019/20 gydag arbenigedd pwnc o TG Uwchradd.
Bydd yr ystadegau swyddogol ar gyfer 2020/21 yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai 2022. Mae arwyddion cynnar o ddata rheoli yn awgrymu y bydd cynnydd yn y niferoedd sy'n ymgymryd â rhaglenni TG.
Mae'r bwletin ystadegol mwyaf cyfredol i'w weld yn Addysg Gychwynnol i Athrawon: Medi 2019 i Awst 2020 | LLYW.CYMRU