WQ84470 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2022

Pa gamau y mae Comisiwn y Senedd wedi'u cymryd i sicrhau bod pobl sydd wedi colli eu clyw neu sydd wedi'u cofrestru'n fyddar yn gallu ymgysylltu'n llawn â Senedd Cymru?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 16/02/2022

Mae Comisiwn y Senedd yn ymrwymedig i sicrhau mynediad i’n holl wasanaethau a’n hadeiladau ar gyfer pobl fyddar a’r rhai sydd â nam ar eu clyw. Cynhelir Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb cyn i unrhyw newidiadau gael eu gwneud; rydym yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac yn dilyn arfer gorau. 

Mae ein Strategaeth Ymgysylltu a Chyfathrebu â'r Cyhoedd yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer nodi a dileu rhwystrau i gyfranogiad ac ymgysylltiad ar gyfer pobl anabl. Wrth wneud gwaith ymgysylltu ar ran pwyllgorau, rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i dargedu pobl anabl a sefydliadau anabledd. 

Bob wythnos rydym yn darlledu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain o Gwestiynau’r Prif Weinidog ar Senedd TV. Rydym hefyd wedi treialu’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer datganiadau Gweinidogol eraill, a chafwyd adborth cadarnhaol ynglŷn â hyn Rydym hefyd yn is-deitlo cynnwys fideo ar gais.

Mae Comisiwn y Senedd wedi’i achredu gan yr RNID fel sefydliad hygyrch ac wedi ennill tair gwobr Rhagoriaeth Cymru RNID Cymru am y darpariaethau sydd gennym ar waith.

Ar ein hystâd, mae gwasanaethau ar gael i hwyluso ymgysylltiad â phobl sy’n fyddar neu sydd wedi colli eu clyw, gan gynnwys dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, palanteipyddion a gwefuslefarwyr. Gofynnir i’r sawl sy’n bresennol mewn digwyddiadau, ar deithiau ac mewn cyfarfodydd a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnynt fel rhan o’r broses gynllunio.  

Mae staff y Comisiwn wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd, gyda dosbarthiadau ychwanegol o ran ymwybyddiaeth o fyddardod ac Iaith Arwyddion Prydain yn cael eu darparu. Mae ein cydweithwyr Cyswllt Cyntaf a Diogelwch wedi cyflawni hyfforddiant hyder anabledd.

Mae'r Comisiwn yn gweithio gydag RNID fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i anghydraddoldebau iechyd meddwl. Rydym yn bwriadu defnyddio'r cysylltiadau Iaith Arwyddion Prydain sydd gan RNID ynghyd ag offeryn trawsgrifio i gefnogi gwaith y Pwyllgor.

Os oes unrhyw anghenion unigol nad ydynt yn cael eu bodloni, rwy’n hapus i gwrdd â chi i’w trafod.