A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut a phryd y gall busnesau neu unigolion wneud cais am y gronfa diogelwch tân ar gyfer costau trwsio ac adfer i wneud eiddo aml-lefel yn ddiogel?
Agorodd cam cyntaf Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru ar 30 Medi 2021. Gwahoddir y Person(au) Cyfrifol am yr Adeilad (perchennog yr adeilad/asiant rheoli/datblygwr neu’r person cyfrifol am reoli’r adeilad) i Ddatgan Diddordeb yn y cynllun a fydd yn ei alluogi i gael mynediad at arolygon wedi’u hariannu gan grant ar gyfer nodi materion diogelwch tân. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn:
Cronfa adfer adeiladau | LLYW.CYMRU
Daeth 248 o geisiadau i law yn ystod y rownd gyntaf o ffurflenni Datgan Diddordeb a ddaeth i ben ddiwedd mis Rhagfyr. Mae’r cynllun yn dal ar agor ar gyfer ffurflenni Datgan Diddordeb a bydd yr ail rownd yn cau ddiwedd mis Mawrth. Mae’r ceisiadau a ddaeth i law yn cael eu gwerthuso a bydd arolygon o’r adeiladau’n dechrau’n fuan.