WQ84364 (w) Wedi’i gyflwyno ar 26/01/2022

Ar ba sail fydd y £15 miliwn ychwanegol i daclo digartrefedd yng nghyllideb drafft y llywodraeth 2022-23 yn cael ei ddyrannu fesul awdurdod lleol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 03/02/2022

Fel y nodwyd yn fy nhystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar 21 Ionawr, bydd £10 miliwn o'r cynnydd i'r BEL Atal Digartrefedd yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol yn 2022-23 i barhau â’r dull o sicrhau ‘nad oes neb yn cael eu gadael allan’. Mae fy swyddogion wedi bod yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol i lywio dull o ddosbarthu’r cyllid, a bydd hyn yn ystyried yn bennaf lle mae'r galw am lety dros dro, a’r costau cysylltiedig, wedi bod fwyaf ar draws Cymru. Mae manylion y dyraniadau i awdurdodau lleol yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd a byddwn yn cysylltu â nhw cyn hir.

Bydd y £5 miliwn sy'n weddill o'r cynnydd yn y BEL Atal Digartrefedd yn cael ei ddefnyddio i ariannu amrywiaeth o ymyriadau eraill i atal digartrefedd, megis datblygu cynllun cenedlaethol sy'n cyfyngu rhent i lefelau lwfans tai lleol i deuluoedd a phobl ifanc sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae manylion y dyraniadau sy'n weddill yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cyfathrebu maes o law.