WQ84348 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/01/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gymryd i fynd i’r afael â’r nifer cynyddol o staff sy’n datgan eu bod yn bwriadu gadael y GIG oherwydd gorweithio a straen o ganlyniad i’r pandemig?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 07/02/2022

Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar iawn i staff a gwirfoddolwyr ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru a chyrff GIG Cymru yn monitro’n agos p’un a yw staff yn gadael y GIG o ganlyniad i bwysau yn sgil y pandemig. Ar yr un pryd, rydym yn cefnogi cadw staff drwy ystod o bolisïau i wella ymgysylltu a llesiant er mwyn galluogi staff i aros mewn gwaith yn ystod ac ar ôl y pandemig.

Mae mentrau cadw staff wedi’u targedu hefyd yn cael eu rhoi ar waith fel rhan o’r strategaeth gweithlu 10 mlynedd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Ar hyn o bryd mae GIG Cymru yn cyflogi’r niferoedd uchaf erioed o staff.