WQ84335 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2022

Pa gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod pobol sy’n ddall / neu a golwg rhannol yn medru defnyddio profion COVID yn annibynnol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 28/01/2022

Mae cymorth fideo byw a ddarperir gan asiantau galwadau hyfforddedig y GIG ar gael i unrhyw un sydd angen cymorth gyda phrofion cartref drwy’r ap Be My Eyes. Efallai y bydd o fudd penodol i gwsmeriaid dall neu â golwg rhannol, neu’r rheini sydd angen cymorth i weld, ond mae pawb yn gymwys. Gellir cael mynediad at y gwasanaeth drwy ffonio llinell gymorth GIG 119.

I ddechrau, roedd asiantau Be My Eyes yn rhoi cymorth gyda phrofion PCR yn y cartref yn unig. Ond yn dilyn cyfnod peilot diweddar, mae’r gwasanaeth wedi’i ymestyn i roi cymorth gyda phrofion llif unffordd (LFD).

Nododd y cynllun peilot, er bod asiantau yn gallu rhoi llawer iawn o gymorth, bod pobl â nam difrifol ar y golwg yn dal i gael trafferth rhoi’r nifer gofynnol o ddiferion ar y ddyfais llif unffordd. O ganlyniad, mae cafeat i’r gwasanaeth y bydd pobl â nam difrifol ar y golwg yn ei chael yn haws cael cymorth gan ffrind neu aelod o’r teulu.

Bydd swyddogion yn monitro’r gwasanaeth ac yn ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i gynorthwyo pobl sy’n ddall neu â golwg rhannol.