WQ84290 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2022

Pa gymorth ariannol sydd ar gael i rieni sydd yn gofalu am blant sydd yn dysgu o adref oherwydd cyfarwyddyd ysgol neu cau dosbarth am gyfnod, ond sydd ddim yn dioddef o cofid ac felly heb PCR positif er mwyn hawlio cefnogaeth y cynllun cymorth neu debyg?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 01/02/2022

Rwy’n ddiolchgar o hyd am ymdrechion ein rhieni, ein plant a’n hysgolion ledled Cymru i wneud popeth a allant i atal achosion o darfu ar ddysgu wyneb yn wyneb.

Dim ond o ganlyniad i Covid y dylai ysgolion symud i ddysgu o bell, pan fo’n gwbl angenrheidiol, a dylai hynny ddigwydd am y cyfnod byrraf posibl.

Yn yr amgylchiadau hyn, byddem hefyd yn disgwyl i ysgolion ystyried cynnig darpariaeth ar y safle i blant sy’n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol.

Weithiau mae’n bosibl y bydd rhieni a gofalwyr yn gorfod gwneud trefniadau amgen ar fyr rybudd ar gyfer eu plant, er enghraifft pan fydd plentyn yn sâl neu pan fydd dosbarth y plentyn neu’r ysgol yn gorfod cau mewn ymateb i amgylchiadau penodol y tu hwnt i reolaeth yr ysgol, gan gynnwys Covid. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod bod unrhyw amser a dreulir i ffwrdd o’r ysgol nid yn unig yn effeithio ar y dysgwr ond hefyd ar y rhai sy’n gofalu am blant. Felly, rydym fel Llywodraeth wedi parhau i annog cyflogwyr i fod yn hyblyg wrth gefnogi rhieni neu rai sy’n gofalu am blant sy’n gorfod dysgu gartref mewn ymateb i fater cysylltiedig â Covid yn yr ysgol.

Gallai’r hyblygrwydd hwn gynnwys absenoldeb arbennig am dâl neu batrwm gweithio hyblyg yn hytrach na chymryd cyfnodau hirach i ffwrdd, er enghraifft gweithio gartref neu newid oriau gweithio i allu gofalu am blant.

Gall unigolion gysylltu ag ACAS i edrych ar fathau eraill o gymorth gan gyflogwyr.

Cysylltu â ni | Acas