WQ84280 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2022

Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o effaith canoli gwasanaethau fasciwlar yn Ysbyty Glan Clwyd a chau'r gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 25/01/2022

Penderfynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr aildrefnu’r gwasanaethau fasgwlaidd er mwyn eu gwneud yn fwy diogel ac yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Gwahoddwyd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS) gan y bwrdd iechyd i gynnal adolygiad dwy ran i’r gwasanaeth newydd er mwyn darparu sicrwydd a chynnig unrhyw argymhellion ar gyfer gwella. Yn ei hanfod, roedd rhan gyntaf o adolygiad y Coleg Brenhinol yn cymeradwyo’r newid yn y gwasanaeth ac nid oedd awgrym y dylid ailgyflwyno trefniadau’r gwasanaeth blaenorol. Fodd bynnag, mae yna fwy i’w wneud er mwyn gwella’r gwasanaeth ac mae’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i weithredu ar argymhellion y Coleg Brenhinol. Rydym yn cynnal trafodaethau rheolaidd â’r bwrdd iechyd, a byddwn yn parhau i gadw golwg ar ddatblygiadau o fewn y gwasanaeth fasgwlaidd.