WQ84270 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2022

Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau fod gan bawb yn Nwyfor Meirionnydd fynediad at wasanaeth deintydda cyhoeddus?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 24/01/2022

Byrddau Iechyd sydd â’r gyllideb a’r cyfrifoldeb ar gyfer sicrhau darpariaeth gwasanaethau deintyddol y GIG. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos â hwy i fynd i’r afael â phroblemau tymor byr a sicrhau gwelliannau hirdymor. Rwy’n cydnabod bod ardaloedd yn bodoli lle mae’n anodd cael gafael ar wasanaethau, a hoffwn inni gyrraedd sefyllfa lle mae pawb yng Nghymru sy’n dymuno cael gafael ar ofal deintyddol gan y GIG yn gallu gwneud hynny.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynllunio ymarfer comisiynu. Mae hyn naill ai ar gyfer ymestyn y ddarpariaeth mewn practis sy’n bodoli eisoes neu sefydlu practis dwy-ddeintyddfa newydd yn ardal Dwyfor Meirionnydd. Byddai hyn yn gwasanaethu’r hyn sy’n cyfateb i oddeutu 12,000 o gleifion. Bydd yr ymarfer hwn yn mynd yn fyw ar ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd gyda’r bwriad i sefydlu gwasanaethau mor fuan â phosibl.

Yn ogystal, bydd agoriad Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru ym Mangor yn ddiweddarach eleni yn cynyddu’r cyfleoedd i bobl gael gafael ar wasanaethau yn ardal Dwyfor Meirionnydd, er y bydd gofyn i rai pobl deithio. Bydd y ddarpariaeth hon yn cynnwys sesiynau ychwanegol brys a rhai nad ydynt yn rhai brys, yn ogystal â gofal arferol.

Nid oes amheuaeth bod y pandemig wedi effeithio ar y gwelliannau sy’n cael eu gwneud i gynyddu’r cyfleoedd i bobl gael gafael ar wasanaethau deintyddol y GIG. Deintyddiaeth yw un o’r meysydd mwyaf cymhleth o fewn gofal sylfaenol yn nhermau adfer gwasanaethau. Er mwyn rhoi hwb i wasanaethau deintyddol ar gyfer gweddill y flwyddyn, rwyf wedi cyhoeddi cyllid canol blwyddyn ychwanegol i fyrddau iechyd o hyd at £3m. O 2022-23, mae cyllideb reolaidd ychwanegol o £2m yn cael ei sicrhau er mwyn gwella’r cyfleoedd i bobl ledled Cymru gael gafael ar wasanaethau deintyddol y GIG.