WQ84233 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/01/2022

Beth yw’r amserlen ar gyfer galluogi i frechiadau COVID-19 a dderbynnir y tu allan i’r DU gael eu cofrestru ar systemau GIG Cymru fel y gellir rhoi pàs Covid a phigiadau atgyfnerthu i’r rhai sydd wedi cael eu brechiadau dramor?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 25/01/2022

Ar hyn o bryd, nid oes gan Gymru na Lloegr broses awtomatig ar gyfer ychwanegu tystiolaeth o frechiadau a roddwyd dramor i’n cronfeydd data priodol nac i wasanaeth Pàs COVID y GIG.

Mae fy swyddogion yn cydweithio â phartner cyflenwi o Gymru er mwyn sicrhau’r broses hon ar gyfer preswylwyr o Gymru. Rydym yn anelu at lansio’r ddarpariaeth yn fuan a disgwyliwn iddi fod ar gael ym mis Chwefror. Bydd diweddariadau yn cael eu rhoi ar wefan Llywodraeth Cymru sydd ar gael yma: Cael eich pàs COVID y GIG | LLYW.CYMRU

Mae’r rhaglen Frechu COVID-19 yng Nghymru ar gael i bawb sydd wedi’u hadnabod yn gymwys gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, waeth beth fo’u statws neu hyd eu harhosiad yng Nghymru. Gall unrhyw un nad yw wedi cofrestru â meddyg teulu neu nad oes ganddo rif y GIG gael cynnig brechiad atgyfnerthu naill ai drwy ddefnyddio’r canolfannau cerdded i mewn, neu drwy gysylltu â’u bwrdd iechyd lleol i drefnu apwyntiad.