Pa gefnogaeth ychwanegol mae’r Llywodraeth am gynnig er mwyn galluogi ysgolion cynradd i gynnig darpariaeth clwb ar ôl ysgol?
Rwy’n cydnabod y gall clybiau cyn neu ar ddiwedd y diwrnod ysgol fod o fudd i blant mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, maent yn eu galluogi i feithrin cyfeillgarwch â phlant na fyddent yn cymysgu â nhw fel rheol; yn rhoi cyfle iddynt dreulio mwy o amser yn chwarae y tu allan neu’n darparu cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd. Mae gwasanaethau o’r fath yn darparu bwyd maethlon hefyd yn aml ac yn cynnig mwy o hyblygrwydd i rieni a gofalwyr o ran gwaith.
Fel rhan o’n cynllun Adnewyddu a Diwygio, felly, rydym wedi darparu pecyn ‘Gaeaf Llawn Lles’ gwerth £6.4m ar draws pob ysgol yng Nghymru y flwyddyn ariannol hon. Nod y cyllid yw hwyluso sesiynau ychwanegol bob pen i’r diwrnod ysgol er mwyn hyrwyddo lles corfforol, meddyliol ac emosiynol drwy gynyddu mynediad at weithgareddau creadigol, chwaraeon, chwarae a diwylliannol yn Gymraeg a Saesneg.
Rydym hefyd yn edrych ar hyn fel rhan o’r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu a’n Cytundeb Cydweithio ar ddiwygio’r diwrnod a’r flwyddyn ysgol, lle cyhoeddwyd hyd at £2m i hwyluso’r gwaith o dreialu gweithgareddau a phrofiadau cyfoethogi ychwanegol pwrpasol bob dydd bob pen i’r diwrnod ysgol. Bydd y gwaith hwn yn darparu tystiolaeth a gwybodaeth werthfawr er mwyn datblygu polisi i’r dyfodol.