WQ84154 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2022

Yn dilyn datganiad Sgrinio Serfigol Cymru ynghylch ymestyn y bwlch sgrinio arferol o dair i bum mlynedd os na cheir feirws papiloma dynol mewn prawf ceg y groth, pa drafodaethau mae'r llywodraeth wedi gael gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi'r penderfyniad hwn?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 19/01/2022

Fel gweddill y DU, mae Llywodraeth Cymru’n dilyn cyngor annibynnol ac arbenigol Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC). Mae’r UK NSC wedi gwneud argymhelliad i holl wledydd y DU y dylid gweithredu’r prawf sgrinio serfigol newydd a newid y bwlch rhwng profion sgrinio o dair blynedd i bum mlynedd ar gyfer y rheini sydd wedi profi’n negatif am y feirws papiloma dynol (HPV). Gwnaed yr argymhelliad hwn ar ôl blynyddoedd o ymchwil ac ymgynghoriad â’r cyhoedd ar draws y DU. Ym mis Gorffennaf 2020 cymeradwyodd Pwyllgor Sgrinio Cymru, Llywodraeth Cymru, argymhelliad Iechyd Cyhoeddus Cymru i symud ymlaen â’r gwaith cynllunio i ymestyn y bwlch rhwng profion sgrinio rheolaidd i bum mlynedd ar gyfer menywod sydd wedi profi’n negatif am HPV. Mae diweddariadau rheolaidd wedi’u rhoi i gyfarfodydd dilynol y pwyllgor ar y cynnydd.