WQ84153 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2022

Pa ganllawiau sydd wedi'u cyhoeddi gan y Comisiwn o dan baragraff 1.5.1 Penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar Gyflogau a Lwfansau'r Aelodau?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 19/01/2022

Mae paragraff 1.5.1 o’r Penderfyniad yn nodi: “O bryd i’w gilydd, efallai y caiff Aelodau eu cyfeirio at y canllawiau a gyhoeddir gan y Tîm Cymorth Busnes i Aelodau neu un o wasanaethau perthnasol eraill Comisiwn y Senedd”. Mae timau ar draws y Comisiwn yn darparu canllawiau, gwybodaeth a chyngor ar gyfer Aelodau o’r Senedd a’u staff cymorth er mwyn eu cynorthwyo ym mhob agwedd ar eu rôl, gan gynnwys deall darpariaethau’r Penderfyniad. Mae hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, ddyletswyddau Aelodau fel cyflogwyr ac fel rheolwyr data. Cyhoeddir y wybodaeth hon yn gyffredinol ar fewnrwyd yr Aelodau.