WQ83942 (w) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 24/11/2021

Pa ddarpariaeth trochi fydd yn cael ei ddarparu yn Rhondda Cynon Taf fel rhan o'r buddsoddiad o £2.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 30/11/2021

Rwyf wedi cael fy nghalonogi gan yr ymateb ers i mi ymrwymo £2.2m i gefnogi darpariaethau trochi ym mis Medi. Cafodd pob awdurdod lleol gyfle i wneud cais am hyd at £100,000 o'r Grant refeniw Trochi Hwyr ac mae’n bleser gen i nodi fod Cyngor sir Rhondda Cynon Taf yn un o’r siroedd fydd yn elwa o’r grant hynny. Mae’r grant yn mynd i gefnogi darpariaethau trochi newydd yn cael eu peilota mewn 8 sir a darpariaethau sydd eisoes wedi’u sefydlu yn cael eu ehangu mewn ymateb i’r twf aruthrol yn y galw ers COVID-19. Mae pob sir wedi cael gwybod o ganlyniad eu cais.

Yn Rhondda Cynon Taf, mae’r sir yn awyddus i sefydlu dau ddosbarth cymorth trochi i ddysgwyr yn ysgolion cynradd Garth Olwg a Phenderyn yn ogystal a darparu pecynnau trochi iaith i gefnogi dysgwyr ar draws y sector cynradd i atgyfnerthu eu sgiliau Cymraeg. Bydd yr ymyraethau hyn yn hwb i’w cynlluniau i dyfu ac ehangu addysg Gymraeg yn y sir yn unol a’u Cynllun strategol y Gymraeg mewn Addysg. Rydym wedi gosod targed i’r sir gynyddu’r canran o ddysgwyr sy’n derbyn eu haddysg trwy’r Gymraeg o 19% i rhwng 27%-31% dros y deng mlynedd nesaf. Mae sefydlu darpariaeth trochi hwyr lleol yn gam pwysig i’r sir ac rwy’n falch o’u gweld yn cymryd y cam hynny.

Mae ein dull o drochi dysgwyr yn y Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru, ac rwy’n ymfalchïo yn yr hyn sy’n cael ei gyflawni gan ein hathrawon a’n hymarferwyr addysgol bob dydd. Rwy’n edrych ymlaen at weld y buddsoddiad yma’n cefnogi dysgwyr sy’n newydd i'r iaith gael y cyfle gorau i ddod yn siaradwyr Cymraeg.