A wnaiff y Gweinidog egluro pam bod y broses o benodi Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cymryd mor hir a phryd y mae disgwyl penodiad?
Fel yr esboniwyd yn fy ymateb i WQ83906, mae penodi aelod o Fwrdd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, ac Aelod o Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cymru, yn benodiad a wnaed gan Lywodraeth y DU o dan bortffolio'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Masnach Ryngwladol a’r Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldebau
Nodir y broses ar gyfer y penodiad yma:
| Comisiynydd Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (cabinetoffice.gov.uk)
Mae trafodaethau wedi bod rhwng Gweinidogion Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau yr oedd Gweinidogion Cymru’n fodlon bod y broses wedi ystyried cymeriad ac anghenion penodol Cymru yn ddigonol ac i sicrhau bod yr ystod o ymgeiswyr mor amrywiol â phosibl. Mae hon yn swydd bwysig ac mae’r broses ddethol bellach ar gam uwch.