A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r broses o benodi Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol?
Mae penodi aelod o Fwrdd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, ac Aelod o Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cymru, yn benodiad a wnaed gan Lywodraeth y DU o dan bortffolio'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Masnach Ryngwladol a’r Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldebau.
Nodir y broses ar gyfer y penodiad yma:
| Comisiynydd Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (cabinetoffice.gov.uk)
Gofynnir i Lywodraeth y DU gyflawni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2006 sef bod yn rhaid i aelodaeth y Comisiwn gynnwys Comisiynydd sy’n gwybod am yr amodau yng Nghymru (“Comisiynydd Cymru”). Mae’r penodiad hwn yn ddarostyngedig i gydsyniad Gweinidogion Cymru.