WQ83901 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog grwpiau lleol i berchnogi a delifro cynlluniau lleol er mwyn ceisio gwireddu amcanion y llywodraeth ar gyfer Coedwig Genedlaethol Cymru?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 22/11/2021

O dan Raglen y Goedwig Genedlaethol mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn annog gweithredu cymunedol ar gyfer plannu a rheoli coed drwy nifer o gynlluniau arddangos, gan gynnwys y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) a’r Cynllun Coetiroedd Cymunedol.

Yn nes ymlaen eleni byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriad ffurfiol ar gyflenwi’r Goedwig Genedlaethol yn yr hirdymor. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â phobl leol, cymunedau a busnesau yng Nghymru ac â’n ffermwyr fel y gallwn gynllunio’r Rhaglen mewn ffordd sy’n galluogi pawb i gyfrannu. Er enghraifft, byddwn yn gofyn i gymunedau lleol fel rhan o’r ymgynghoriad bennu ardaloedd ble gallai Coedwig Genedlaethol gael ei chreu.