WQ83900 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Gan nad yw y cynllun cymorth Glastir bellach yn cyllido gwariant cyfalaf newydd, beth yw bwriad y Llywodraeth i gefnogi’r sectorau adeiladu traddodiadol sydd wedi gweld cwymp yng ngwariant cynnal ac adnewyddu gan ffermydd sydd yn ddibynnol ar gefnogaeth y cynllun hwn?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi | Wedi'i ateb ar 29/11/2021

Mae £66.79miliwn ychwanegol wedi cael ei ddyrannu i ymestyn contractau Glastir Uwch, Glastir Organig a Thir Comin Glastir flwyddyn tan fis Rhagfyr 2023. Mae Glastir yn parhau i gefnogi gwariant cyfalaf drwy Grantiau Bach Glastir. Mae contractau’n cael eu cyflawni o hyd o ddwy rownd ddiwethaf Grantiau Bach Glastir ar gyfer y themâu Carbon a Thirwedd a Pheillwyr, gyda llawer o waith cyfalaf tymhorol yn cael ei gyflawni yn ystod yr hydref a’r gaeaf hwn.