WQ83899 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Yng wyneb tan wariant i’r cynllun cymorth Glastir, beth yw bwriad y Llywodraeth i alluogi gwariant cyfalaf sydd wedi'u heithrio o’r estyniad blynyddol presennol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd | Wedi'i ateb ar 25/11/2021

Nid oes unrhyw danwariant o ran y cyllidebau sydd wedi’u neilltuo i gontractau Glastir Uwch, Glastir Organig neu Glastir Tir Comin. Mae’r holl gyllideb ar gyfer Grantiau Bach Glastir hefyd wedi’i defnyddio ac roedd y galw am y cyllid yn uwch na’r hyn a oedd ar gael.