WQ83837 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/11/2021

Pan fo cyfrifoldeb am wasanaeth neu ddarpariaeth yn aneglur rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, sut gall y Gweinidog sicrhau fod cerdyn yswiriant iechyd byd eang yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan GIG Cymru a nid NHS England, er mwyn sicrhau cerdyn dwyieithog i ddinasyddion Cymru yn ôl eu hawl?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 16/11/2021

Nid yw cyfrifoldeb am ddarparu Cardiau Yswiriant Iechyd Byd-eang yn aneglur. Y Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang (sy’n disodli’r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd) yw’r dull y mae Llywodraeth y DU yn ei ddefnyddio i alluogi preswylwyr y DU i gael mynediad at ofal iechyd meddygol angenrheidiol pan fyddant yn ymweld â gwledydd yr UE. Mae hyn yn rhan o’r cytundeb gofal iechyd cyfatebol â’r UE o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu newydd yn dilyn ymadael â’r UE a’r Swistir o dan y confensiwn gofal iechyd cyfatebol y cytunwyd arno’n ddiweddar.

Mae cytundebau rhyngwladol yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddarparu Cardiau Yswiriant Iechyd Byd-eang.

Gweinyddir Cardiau Yswiriant Iechyd Byd-eang gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG ar ran Llywodraeth y DU i’r DU gyfan. Nid yw Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG yn dod o dan system Safonau’r Gymraeg, ac nid oes ganddo ychwaith gynllun iaith Gymraeg ar waith.