WQ83826 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2021

Pan fo cyfrifoldeb am wasanaeth neu ddarpariaeth yn aneglur rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, fel yn achos y Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd Eang, sut all Llywodraeth Cymru sicrhau fod darpariaeth iaith Gymraeg o’r gwasanaeth ar gael, ac wedi ei hyrwyddo, yn gydradd a’r darpariaeth iaith Saesneg?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 17/11/2021

Mewn sefyllfaoedd lle mae cyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru am wasanaeth a ddarperir ar ei rhan gan Lywodraeth y DU, cytunir ar Femorandwm o Ddealltwriaeth, sydd yn nodi’r gofynion o ran y Gymraeg yn glir. 

Os nad oes cyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru am y gwasanaeth, fel yn achos y Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd Eang (gan fod cytundebau rhyngwladol yn neilltuol i Lywodraeth y DU), mater i Gomisiynydd y Gymraeg yw rheoleiddio cynlluniau iaith adrannau Llywodraeth y DU o dan Ddeddf Iaith 1993. 

Fodd bynnag, mae swyddogion y Llywodraeth wedi cysylltu gyda’r NHS BSA, sydd yn gyfrifol am y broses o ddarparu’r cerdyn, er mwyn trafod y ddarpariaeth yng Nghymru.