WQ83745 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/11/2021

Pa ystyriaeth a roddwyd i sicrhau bod pobl sy'n gaeth i'w cartrefi yn derbyn y brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn ôl yr amserlen a argymhellir gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, h.y. chwe mis ar ôl eu hail frechiad?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 10/11/2021

Yn dilyn y cyngor presennol gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, ni ddylid cynnig dosau atgyfnerthu o’r brechlyn yn gynharach na chwe mis ar ôl cwblhau cwrs sylfaenol o’r brechlyn.

Mae darpariaeth a chynlluniau ar waith i bobl sy’n gaeth i’r tŷ a phobl mewn cartrefi gofal, sy’n golygu y gellir mynd â’r brechlyn yn ddiogel atynt gan ddefnyddio gwasanaeth symudol os na allant fynychu meddygfa meddyg teulu neu ganolfan brechu torfol.

Mae gan fyrddau iechyd fanylion y bobl na fyddent efallai yn gallu cyrraedd canolfan frechu neu feddygfa. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd byrddau iechyd naill ai’n rhoi cyfarwyddiadau i’r tîm symudol (nyrsys cymunedol) neu’r meddyg teulu ddarparu’r brechlyn i’r unigolyn.

Yn ogystal â hyn, mae rhai fferyllfeydd yn helpu i ddarparu’r brechlyn COVID-19. Bydd hyn yn cefnogi ein dull o ddarparu ac yn cryfhau ein gallu i weinyddu’r brechlyn o fewn cymunedau.