WQ83610 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2021

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i deuluoedd a busnesau y mae cau parhaus yr A465 yn cael effaith negyddol arnynt, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 28/10/2021

Gall Busnes Cymru ddarparu gwybodaeth a chymorth i berchnogion busnesau yng Nghymru ar ystod eang o bynciau gan gynnwys cael gafael ar gyllid busnes a sgiliau a hyfforddiant. Os hoffai unrhyw un ddysgu mwy am y cymorth a allai fod ar gael, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 rhwng 8:30 a 5:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener neu ar-lein drwy

Cysylltwch â ni | Busnes Cymru (gov.wales)

Er fy mod yn gwerthfawrogi pryderon trigolion a busnesau lleol, yn anffodus nid oes darpariaeth statudol i alluogi Llywodraeth Cymru i ddigolledu trigolion lleol, cymudwyr na busnesau am anghyfleustra, colli masnach neu elw sy'n deillio o wella neu gynnal a chadw ffyrdd. 

Pan fo awdurdod priffyrdd yn cyflawni gwaith o dan bŵer neu ddyletswydd statudol, ac yn cyflawni'r gwaith hwn yn iawn, nid oes unrhyw atebolrwydd cyfreithiol ar yr awdurdod am golli busnes. Nid oes gan Lywodraeth Cymru'r pŵer ychwaith i wneud cynigion ex gratia o daliad neu iawndal am darfu ar fasnach.

Rydym yn cydnabod y tarfu y gall gwaith ffordd o'r fath ei achosi ar fusnesau, trigolion lleol a'r cyhoedd sy'n teithio ac mae timau prosiectau yn sicrhau fod gwaith ffordd yn amharu cyn lleied ag y bo modd ar y gymuned.