WQ83608 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2021

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith ar adran Gilwern i Frynmawr o'r A465?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 21/10/2021

Mae prosiect adran 2 yr A465 yn parhau yn unol â’r amserlen ac mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni, ond mae gwaith atgyweirio ychwanegol i Draphont Clydach wedi arwain at rywfaint o oedi. Bydd ffordd ymadael Brynmawr yn cael ei hailagor cyn gynted â phosibl yn dilyn symud y traffig i’r lefel uchaf ym mis Awst y llynedd.

Rydym yn gwerthfawrogi amynedd defnyddwyr y ffordd a’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal tra bo’r gwaith adeiladu terfynol yn cael ei gwblhau ar yr her beirianyddol sylweddol hon a fydd yn creu rhagor o fanteision i gymunedau Blaenau’r Cymoedd.