WQ83581 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2021

Beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf o ran rhestrau aros i weld swyddogion adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg (ROVIs) yn dilyn effaith y pandemic ar y gwasanaethau iechyd?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 20/10/2021

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw data fel mater o drefn ynghylch rhestrau aros ar gyfer swyddogion adsefydlu ar gyfer pobl â nam ar eu golwg (ROVIs), gan fod hyn yn cael ei ddarparu drwy wasanaethau awdurdodau lleol.

Cynhaliodd Cyngor Cymru i'r Deillion (WCB), gyda chymorth cyllid ymchwil gan Lywodraeth Cymru, adolygiad ym mis Mawrth 2021 i roi cipolwg eang ar y sefyllfa yng Nghymru. Canfuwyd bod tua 1,145 o bobl ar restrau aros ar adeg cynnal yr adolygiad – nid oedd gan rai awdurdodau lleol ffigurau; roedd gan rai lai na 25 o bobl ar eu rhestrau aros ac roedd gan rai fwy na 100. Mae'n amlwg bod hyd y rhestrau aros yn amrywio rhwng gwahanol rannau o Gymru.

Rydym yn ymwybodol bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y gwasanaethau hyn, fel ar lawer o rai eraill yng Nghymru. Er bod y ffigurau atgyfeirio wedi amrywio tra oedd cyfyngiadau ar waith, mae mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio i'r system.

Mae nifer o heriau yn effeithio ar y rhan hon o'r sector – rhai enghraifftiau o’r rhain yw’r amrywiadau mewn hygyrchedd ac amseroedd aros, ynghyd â nifer y ROVIs sydd ar gael yng Nghymru a’r gwaith paratoi ar gyfer gweithlu’r dyfodol. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae swyddogion yn cysylltu â'r WCB, sydd yn ei dro yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, Fforwm Golwg Cymru a Fforwm Swyddogion Adsefydlu Cymru i gefnogi cynlluniau i fynd i'r afael â heriau. Mae cyllid hefyd ar gael i'r WCB