WQ83580 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2021

Beth yw cynllun y Llywodraeth i fynd i’r afael a’r nifer o gleifion llygaid HRF1 sydd wedi mynd dros yr amser targed am driniaeth / gofal?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 22/10/2021

Parhaodd apwyntiadau gofal llygaid hanfodol a brys yn ystod y pandemig. Roedd unigolion a oedd mewn perygl o niwed neu o golli eu golwg yn barhaol yn dal i gael eu gweld a’u cyflwr yn cael ei fonitro, yn rhithiol. Fodd bynnag, mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar amseroedd aros ac mae byrddau iechyd yn blaenoriaethu pobl yn ôl angen clinigol wrth i weithgarwch arferol ailddechrau. Rydym wedi cyhoeddi cynllun adfer ar gyfer byrddau iechyd i’w helpu i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o lawdriniaethau wedi’u cynllunio, gyda chymorth o bron i £250m o gyllid ychwanegol.

Roedd rhan o'r buddsoddiad yn cynnwys dyraniad penodol i fyrddau iechyd ar gyfer canolbwyntio ar ofal llygaid yn unol â'r cynllun adfer ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid. Bydd hyn yn helpu i leihau nifer yr unigolion sy'n aros y tu hwnt i'r dyddiad y disgwylir iddynt gael eu gweld, gan ganolbwyntio ar glawcoma, AMD gwlyb, cataractau, Gwasanaethau Optometreg sy’n Rhagnodi Annibynnol a Gwasanaeth Sgrinio Hydrocsiclorocwin. Bydd hefyd yn cefnogi datblygiadau cynaliadwy o fewn y gwasanaeth. 

Wrth i wasanaethau adfer, rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd barhau i gynyddu gweithgarwch a bod unigolion sydd angen triniaeth yn cael eu gweld ar adeg sy’n briodol yn glinigol. Atal colli golwg yw'r flaenoriaeth allweddol.