WQ83579 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2021

Pa asesiad mae’r Llywodraeth wedi ei wneud o’r niferoedd o gleifion llygaid fydd wedi cael niwed i’w golwg oherwydd yr oedi mewn gofal neu driniaeth o ganlyniad i COVID-19?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 22/10/2021

Drwy gydol y pandemig, mae unigolion sydd angen gofal llygaid hanfodol a brys wedi parhau i gael eu gweld. Mae gan fyrddau iechyd ddyletswydd gofal i sicrhau bod unigolion yn cael eu hadolygu’n glinigol ar adegau priodol. Wrth i unigolion aros am driniaeth, mae’n hollbwysig bod eu cyflwr yn cael ei fonitro gan glinigydd priodol a bod triniaeth a gofal dilynol yn cael eu darparu mewn ffordd ddiogel ac amserol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i fyrddau iechyd er mwyn sicrhau bod modd i ragor o unigolion gael eu hadolygu’n amserol. 

Pe bai rhywun yn anffodus yn colli ei olwg neu’n cael niwed parhaol, mae’n ofynnol i fyrddau iechyd adrodd am ddigwyddiadau difrifol o’r fath i Uned Gyflawni’r GIG a Llywodraeth Cymru. Ymchwilir yn ofalus i bob digwyddiad a chymerir unrhyw gamau priodol. Mae atal colli golwg a darparu gofal a thriniaeth sy’n briodol yn glinigol yn parhau i fod yn flaenoriaeth.