Beth yw cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer datblygu mwy o brentisiaethau Cymraeg a dwyieithog dros y flwyddyn i ddod?
Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi | Wedi'i ateb ar 13/10/2021
Yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i ehangu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel y gall gefnogi’r sector ôl-16 i feithrin capasiti a chynnig gwell cefnogaeth i ddysgwyr. Yn ogystal, yn Rhaglen Waith Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-26 sydd â’r nod o gyrraedd targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, rydym wedi ymrwymo i “ddatblygu cynigion i warantu bod pobl ifanc 16-25 oed yn gallu cael mynediad am ddim i gyrsiau Cymraeg i oedolion”. Bydd hyn yn rhoi’r un cyfle i bob person ifanc dyfu’n siaradwr hyderus.