WQ83518 (w) Wedi’i gyflwyno ar 30/09/2021

Sut y gall cymunedau neu sefydliadau gael mynediad i'r £500,000 y mae'r Llywodraeth yn ei neulltuo tuag at beiriannau diffibrilio, a phwy fydd yn penderfynu ar sut y bydd y pres yn cael ei ddyranu?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 12/10/2021

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Achub Bywydau Cymru yn defnyddio’r £500,000 o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gennyf i weithio mewn partneriaeth i brynu bron i 500 o diffibrilwyr. Bydd grwpiau a sefydliadau cymunedol yn gallu gwneud cais i gael y ddyfais hon, a bydd y ffurflen gais ar gael maes o law; fodd bynnag gall grŵp a sefydliadau gofrestru eu diddordeb mewn cael y ffurflen drwy e-bostio: Savealifecymru@wales.nhs.uk <mailto:Savealifecymru@wales.nhs.uk>.

Rhaid i bob sefydliad sy’n dymuno gwneud cais fodloni nifer o feini prawf ynglŷn â mynediad, gan gynnwys cadarnhau’r gofynion canlynol:

  • Nid oes unrhyw ddiffibriliwr o fewn 500m i’r safle arfaethedig;
  • Bydd y sefydliad yn prynu cabinet a wresogir ar gyfer y diffibriliwr, a bydd hwnnw’n cael ei osod ar wal allanol mewn man y mae mynediad ato 24 awr y dydd;
  • Darperir cyflenwad trydan addas er mwyn sicrhau bod y diffibriliwr yn cael ei gynnal ar y tymheredd cywir i atal y batri a’r padiau rhag dirywio;
  • Bydd y diffibriliwr ar gael i’r cyhoedd ei ddefnyddio 24 awr y dydd;
  • Bydd y sefydliad yn cofrestru’r diffibriliwr yng nghronfa ddata The Circuit;
  • Bydd yn penodi gwarcheidwad ar gyfer y diffibriliwr (i’w gynnal a’i gadw yn rheolaidd);
  • Trefnir sesiynau ymwybyddiaeth i ddysgu sgiliau adfywio cardio-pwlmonaidd/defnyddio diffibriliwr i unigolion sy’n rhan o’r sefydliad neu’r grŵp.