WQ83454 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/09/2021

Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn gosod arwyddion ar yr A487 ar gyfer Canolfan Arddio Fron Goch Caernarfon?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 01/10/2021

Mae pedwar arwydd newydd wedi’u gosod ar yr A487 sydd bellach yn tynnu sylw at Ganolfan Arddio Fron Goch. Wrth i’r peirianwyr osod pumed arwydd cafodd prif bibell nwy ei darganfod. O’r herwydd bwriedir symud lleoliad yr arwydd a bydd y gwaith yma’n cael ei wneud cyn gynted â phosibl.