WQ83396 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/09/2021

Pa drefniadau trawsffiniol sydd mewn lle i sicrhau bod canlyniadau profion COVID-19 mewn un gwlad o’r DU yn cael eu rhannu hefo gwlad arall os yw’r haint wedi digwydd yn y wlad honno a lle y gallai fod goblygiadau o ran anghenion tracio ac olrhain?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 22/09/2021

Mae trefniadau rhannu data wedi bod ar waith ar draws ffiniau’r DU drwy gydol y pandemig. Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rheoli ystorfa ar gyfer canlyniadau profion COVID-19, ac mae gan awdurdodau iechyd y cyhoedd yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon fynediad at yr ystorfa honno. Mae’r system yn cadw canlyniadau’r profion a gynhelir ar draws y DU gan Lighthouse Laboratories. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei hysbysu am ganlyniadau profion preswylwyr yng Nghymru. Mae canlyniadau hefyd yn cael eu rhannu a’u trafod yn ehangach rhwng awdurdodau iechyd y cyhoedd yn y DU.