WQ83378 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/09/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu dilyn i sicrhau fod teithwyr ar drenau yng Nghymru yn gwisgo mygydau?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 21/09/2021

Dyma'r gyfraith yng Nghymru o hyd bod yn rhaid i deithwyr trenau wisgo gorchuddion wyneb tra byddant ar y trên ac mewn ardaloedd caeedig mewn gorsafoedd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu ei weithgarwch cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb, gan gynnwys ar gyfer teithwyr sy'n teithio dros y ffin nad ydynt efallai'n ymwybodol bod y gyfraith yn wahanol yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys negeseuon sain ar drenau ac mewn gorsafoedd ynghyd â gwybodaeth a ddarperir ar wefan Trafnidiaeth Cymru a sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar orfodi rheoliadau’r coronafeirws ac ers dechrau 2021 mae dros 50,000 o bobl wedi cael eu herio ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau am beidio â gwisgo gorchuddion wyneb, gyda mwy na 2,000 o bobl yn gwrthod teithio. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn parhau i sicrhau bod ei staff yn mynd ati i hyrwyddo, ymgysylltu, ac amlygu'r cyfrifoldeb personol y mae'n rhaid i bob teithiwr wisgo gorchudd wyneb wrth deithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, oni bai eu bod wedi'u heithrio.