WQ83329 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/09/2021

Pa ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud efo gwneuthurwyr treilars wrth ddatblygu ei rheolau ynghylch gwelliannau i les anifeiliaid mewn trafnidiaeth?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd | Wedi'i ateb ar 14/09/2021

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau eraill i ystyried sut y gellir atgyfnerthu’r trefniadau ar gyfer diogelu lles anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo. Cyhoeddwyd Crynodeb o Ymatebion ac Ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar Welliannau i Les Anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo ym mis Awst. Rydym yn cytuno â’r farn na ddylai anifeiliaid ond gael eu cludo pan fo angen a dylid sicrhau bod teithiau mor fyr â phosibl. Mae tystiolaeth wedi dangos y gall teithiau hir achosi straen gwres, dadhydradu ac anafiadau corfforol i anifeiliaid. Byddwn yn mynd ati yn awr i gydweithio’n fwy agos â’r diwydiant, cyrff anllywodraethol a rhanddeiliaid eraill ynghylch ein polisïau arfaethedig i ystyried rhai o’r materion a’r dystiolaeth mewn rhagor o fanylder. Byddwn hefyd yn datblygu atebion ymarferol a fydd yn cyflawni canlyniadau da o ran lles.