Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pres cyllid Barnett a ddaw yn sgil cynnydd yng ngwariant Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar bêl-droed llawr gwlad yn Lloegr?
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganlyniadau o ran Barnett yn deillio o benderfyniad Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn pêl-droed llawr gwlad yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu defnyddio’r pwerau cymorth ariannol o fewn Deddf Marchnad Fewnol y DU i bennu sut y caiff yr arian ei wario yn y gwledydd cartref.
Cred Llywodraeth Cymru nad yw dull arfaethedig Llywodraeth y DU yn briodol ac nad yw’n parchu’r setliad datganoli gan fod chwaraeon yn amlwg yn faes datganoledig. Byddwn yn codi’r mater hwn yng nghyfarfod nesaf y Cabinet Chwaraeon Cyd-Weinidogol a fydd yn cael ei gynnal fis nesaf.