WQ83265 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/08/2021

Gyda tharged i ddad-garboneiddio pob tŷ erbyn 2030, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut a phwy fydd yn talu am y camau angenrheidiol i ddad-garboneiddio'r tai?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 03/09/2021

Mae datgarboneiddio a gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru ar draws pob deiliadaeth, ac ariannu’r gwaith i gyflawni hyn, yn faes cymhleth. Mae’n bwysig sicrhau bod y seilwaith sydd ei angen i sicrhau hyn wedi’i osod, ynghyd â chynlluniau ariannu.

Mae’n debygol y byddwn yn gweld cymysgedd o gyllid sector cyhoeddus a sector preifat yn cael ei ddefnyddio, gyda gwahanol ddatrysiadau o ran cyllid yn cael eu cynnig ar draws gwahanol fathau o ddeiliadaethau. Gallai hyn gynnwys grantiau, benthyciadau ac atebion arloesol eraill, ac rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i edrych ar opsiynau cyllid.