A wnaiff y Comisiwn fanylu ar faint o bobl oedd ar y rhestr wrth gefn o ymgeiswyr ar gyfer cadeirydd ac aelod o'r Bwrdd Taliadau yn dilyn penodi'r cadeirydd presennol yn 2020?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 07/09/2021
Cadwyd pedwar ymgeisydd a oedd yn bodloni gofynion y rôl ar restr wrth gefn o ymgeiswyr. Hysbyswyd yr ymgeiswyr hyn y byddai rhywun yn cysylltu â hwy pe bai swydd wag yn codi yn y dyfodol agos.