WQ83253 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/08/2021

Pa waith ymgysylltu a wnaeth y Comisiwn gydag Aelodau'r Senedd, grwpiau gwleidyddol a'u harweinwyr cyn penodi Syr David Hanson i'r Bwrdd Taliadau?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 07/09/2021

Mae'r trefniadau ar gyfer penodi aelodau i'r Bwrdd wedi'u nodi ym Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (“y Mesur”).  Mae Atodlen 2 i’r Mesur yn nodi mai’r Clerc sy’n gyfrifol am wneud trefniadau ar gyfer dewis ymgeiswyr i'w penodi.  Mae'n nodi na ddylai'r trefniadau hyn gynnwys cyfraniad gan unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r Clerc ei bod yn debyg yr effeithir arno wrth i'r Bwrdd arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau.

Yn dilyn ymddiswyddiad aelod o’r Bwrdd, ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd drefniadau ar gyfer llenwi’r swydd wag, yn unol â gofynion y Mesur. Rhoddwyd gwybod i Gomisiynwyr y Senedd am y dull hwn cyn ei gyhoeddi. Hysbyswyd Aelodau o'r Senedd drwy e-bost ar 18 Mehefin 2021.

Mae'r Mesur hefyd yn nodi bod yn rhaid i Gomisiwn y Senedd benodi unrhyw berson a ddewisir yn unol â threfniadau o'r fath. Gwneir hyn er mwyn cynnal annibyniaeth y Bwrdd.

Gofynnwyd i Gomisiynwyr y Senedd gadarnhau penodiad y Gwir Anrhydeddus Syr David Hanson drwy e-bost ar 30 Gorffennaf 2021 (gyda dyddiad cau ar gyfer ymatebion erbyn 5 Awst 2021). Cadarnhawyd y penodiad hwn wedyn gan Gomisiynwyr. Rhoddwyd gwybod i Aelodau o'r Senedd am y penodiad hwn drwy lythyr gan Glerc y Senedd ar 18 Awst 2021.