WQ83042 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/07/2021

Pa gynigion sydd gan y Comisiwn i gynnig cynllun aberthu cyflog i weithwyr y Senedd gael mynediad i gerbydau trydan?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 16/08/2021

Ar hyn o bryd, mae'r Comisiwn yn ymchwilio i'r posibilrwydd o gyflwyno cynllun aberthu cyflog i weithwyr, yn sgil y gostyngiad yn y cyfraddau treth ar gyfer buddion mewn nwyddau neu wasanaethau sy'n gysylltiedig â phrydlesu cerbydau trydan drwy gynlluniau o'r fath. Mae trafodaethau â darpar gyflenwyr yn mynd rhagddynt. Mae swyddogion hefyd wedi cysylltu â sefydliadau eraill sydd wedi rhoi cynlluniau tebyg ar waith.  Bydd yn bwysig deall safbwynt Cyllid a Thollau EM yn glir, a hynny er mwyn sicrhau y bydd unrhyw gynnig yn darparu buddion i staff ac i’r Comisiwn.

Mae Comisiwn y Senedd yn cefnogi'r defnydd o gerbydau trydan gan weithwyr y Senedd fel ffordd o gyfrannu at leihau ôl troed carbon y sefydliad. Mae Strategaeth Carbon Niwtral newydd y Comisiwn yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru ar yr ystâd, a hynny er mwyn sicrhau bod y dull trafnidiaeth hwn, sy’n ddull carbon isel, mor hygyrch â phosibl. 

Mae'r Comisiwn eisoes yn darparu pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar yr ystâd ym Mae Caerdydd, ac yn darparu car trydan at ddefnydd pawb.