WQ82996 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/07/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amserlen cyhoeddi canlyniadau Bagloriaeth Cymru 2021?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 26/07/2021

Bydd canlyniadau’r Dystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru yn cyd-fynd â chanlyniadau Safon Uwch a TGAU. Bydd y canlyniadau Uwch ar gael ar 10 Awst a chanlyniadau Cyfnod 4, Sylfaen Ôl-16 a Chenedlaethol ar gael ar 12 Awst. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar wefan CBAC:

Canlyniadau a Ffiniau Graddau (cbac.co.uk)

Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster cyfansawdd sy'n cynnwys y Dystysgrif Her Sgiliau, sef cymhwyster wedi'i raddio, yn ogystal â chymwysterau ategol. Oherwydd y cydgrynhoi hwn o gymwysterau gwahanol y mae eu canlyniadau yn gallu cael eu cyhoeddi ar ddiwrnodau gwahanol, er enghraifft cymwysterau galwedigaethol a TGAU yn achos Bagloriaeth Cymru Uwch, ni fydd holl ganlyniadau Bagloriaeth Cymru ar gael ar ddiwrnod y canlyniadau. Mae hyn yn wir mewn blynyddoedd eraill pan fydd arholiadau'n cael eu sefyll, ac nid yw'n unigryw i'r trefniadau asesu sydd wedi'u rhoi ar waith ar gyfer 2021 i gefnogi cynnydd dysgwyr.