WQ82914 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/07/2021

A wnaiff y Gweinidog amlinellu pryd fydd yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddod â’i hymchwiliadau i ad-drefnu ysgolion cynradd yn Nyffryn Abertawe i ben fel y cynigiwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 26/07/2021

Mae fy swyddogion yn cyfarfod â'r awdurdod lleol fel mater o flaenoriaeth i drafod asesiad effaith y Gymraeg ar gyfer y prosiect.  Felly rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dod i ben cyn gynted â phosibl.