WQ82913 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/07/2021

A wnaiff y Gweinidog egluro ar ba seiliau cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru yn gohirio ad-drefnu ysgolion cynradd yn Nyffryn Abertawe fel y cynigiwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 26/07/2021

Fel y cyfeiriais yn fy natganiad yn y Siambr, mae Llywodraeth Cymru yn oedi'r penderfyniad ariannu. Nid yw'n oedi'r broses statudol o amgylch y cynnig i ad-drefnu ysgolion cynradd yng Nghwm Tawe ei hun.

Mae'r penderfyniad ariannu wedi'i ohirio hyd nes y cwblheir asesiad o'r effaith ar y Gymraeg yn foddhaol, sy'n un o ofynion y broses achos busnes ariannu.

Mae unrhyw gyllid ar gyfer achosion busnes yn amodol ar gwblhau'r broses weithdrefn statudol y Cyngor yn foddhaol.