WQ82885 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/07/2021

Pa ymdrechion mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i sicrhau profion COVID-19 rhatach i ddinasyddion Cymru?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 22/07/2021

Cafodd y trefniant i Corporate Travel Management (CTM) ddarparu gwasanaeth archebu ar gyfer profion y GIG ei wneud gydag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) Llywodraeth y DU. Mae'r pris am brofion y GIG a archebir drwy'r platfform yr un fath ledled y DU. Mae DHSC wedi rhoi gwybod bod CTM wedi’u hen sefydlu fel darparwr archebion gwestai, ac felly mae eu defnyddio i ddarparu'r gwasanaeth archebu profion wedi golygu bod modd i’w systemau a'u prosesau presennol gael eu defnyddio ar gyfer gwestai cwarantîn i deithwyr sy'n cyrraedd o wledydd Coch yn ogystal â phecynnau ar gyfer teithwyr sy’n cyrraedd o wledydd Oren a Gwyrdd. Roedd hyn yn golygu y gellid agor llwybrau teithio rhyngwladol yn gyflymach ac mewn modd cost-effeithiol.

Mae'r profion PCR a ddarperir gan y GIG ar gyfer teithio rhyngwladol yn cael eu caffael yn ganolog gan DHSC fel rhan o'r Rhaglen Brofi Genedlaethol. DHSC sy’n pennu pris profion y GIG. Maent wedi rhoi gwybod bod profion y GIG ar gael ar bwynt canol y farchnad i sicrhau eu bod ar gael am gost briodol. Y gost ar hyn o bryd yw £170 am ddau brawf, ac £88 am un prawf.

Mae rhestr o ddarparwyr profion preifat ar wefan Llywodraeth y DU sy'n cynnig profion PCR, a hynny weithiau am brisiau rhatach. Nid yw Llywodraeth y DU yn cymeradwyo nac yn argymell unrhyw un o'r darparwyr hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn pryderu am lefel y gwasanaeth a ddarperir gan rai o'r darparwyr preifat hyn ar draws ystod o faterion, gan gynnwys profion sydd wedi’u harchebu ddim yn cyrraedd a phobl ddim yn cael gwybod am ganlyniadau. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio sicrwydd mai dim ond cwmnïau sy’n bodloni dangosyddion perfformiad allweddol penodol sy’n cael caniatâd i  ddarparu profion. Pan fyddwn yn sicr bod y systemau cywir ar waith i ddiogelu'r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn adolygu'r sefyllfa.