WQ82882 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/07/2021

Beth yw'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd gan Lywodraeth Cymru am werth rhoi fitamin D i bobl neu argymell yn gryfach eu bod yn ei gymryd fel rhan o ymdrechion i atal salwch SARS-CoV-2?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 22/07/2021

Ar hyn o bryd, nid yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth gadarn bod atchwanegiadau fitamin D yn atal haint COVID-19. Fe wnaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a'r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth gynnull paneli arbenigol i gynnal adolygiad cyflym o’r dystiolaeth o astudiaethau diweddar ar fitamin D mewn perthynas â COVID-19 a heintiau acíwt ar y llwybr anadlu. Daethant i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd i gefnogi cymryd fitamin D i atal neu drin COVID-19. Mae NICE yn argymell: 

“Do not offer a vitamin D supplement to people solely to prevent COVID‑19, except as part of a clinical trial.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg. Ein hargymhelliad ar hyn o bryd yw i bawb gymryd atchwanegiadau fitamin D dyddiol yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf ar gyfer iechyd yr esgyrn a’r cyhyrau, gan ein bod yn cael y rhan fwyaf o'n fitamin D o oleuni’r haul ar ein croen. Cynghorir rhai grwpiau sy’n cael ychydig iawn o haul neu ddim o gwbl, neu sydd a chroen tywyllach, i gymryd ychwanegion drwy gydol y flwyddyn.