WQ82847 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/07/2021

A oes cynlluniau ar waith i sefydlu canolfan diagnosis canser arbenigol yn y Rhondda?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 16/07/2021

Does dim cynlluniau i sefydlu canolfan diagnosis canser benodol yn y Rhondda. Mae cleifion o’r Rhondda eisoes yn gallu cael eu hatgyfeirio i Ganolfan Diagnosis Cyflym y bwrdd iechyd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae’r Ganolfan Diagnosis Cyflym yn darparu llwybr diagnostig cyflymach i gleifion sy’n dod i leoliadau gofal sylfaenol gyda symptomau amwys ond sy’n peri pryder, a all fod yn arwydd o ganser. Mae’n darparu mynediad cyflym i amryw o brofion diagnostig, mewn un lleoliad, gan gynnal yr holl brofion yn ystod yr un ymweliad os yw’n bosibl; gyda sawl arbenigwr yn cydweithio i gyflymu’r diagnosis. Agorodd y Ganolfan Diagnosis Cyflym ym mis Gorffennaf 2017 ac ers hynny mae wedi cael effaith bositif ar brofiad a chanlyniadau cleifion.